MAE CANLLAW GIGIAU MINTY
YN DOD YN CBC!
[pron. KICK]
Haia bawb – sut mae pethau?
Felly wrth i’r canllaw hwn troi’n bump ym mis Mehefin…dwi wedi penderfynu gwneud adduned – GO GIG OR GO HOME.
Wedi dweud hynny, yn ystod yr wythnosau nesaf – dwi mor gyffrous gallu cyhoeddi’r cam nesaf yn ein stori ni – bydd Minty’s Gig Guide yn troi’n CBC (Cwmni Buddiannau Cymunedol) – wedi’i arwain a’i porthi gan y gymuned.
.
.
.
Mae Cwmni Budd Cymunedol yn fenter elusennol arbennig sydd wedi’i sefydlu at ddiben cymdeithasol; sydd yn mynd ati i weithio dros y gymuned er budd iddi.
Mae CBC delfrydol yn cynnwys cyfarwyddwyr o wahanol gefndiroedd gydag ystod amrywiol o sgiliau a safbwyntiau er mwyn gweithio tuag at weledigaeth y CBC a’i nodau cymdeithasol.
.
.
.
I ddod â thirwedd diwylliannol Cymru i’r amlwg, gan ei wneud yn weledol ac yn hygyrch i bawb sy’n byw, gweithio ac yn ymweld â gwlad y gân.
Sicrhau bod yr hyn sydd ar stepen ein drws yn eich poced.
.
.
.
Am y 5 mlynedd, mae’r canllaw hwn wedi darparu cyhoeddiadau a digwyddiadau, wedi ymgyrchu dros leoliadau yng Nghaerdydd ac ar draws Cymru, wedi hyrwyddo ac eirioli dros lawer o artistiaid lleol a theithiol, ac yn awr, rydym yn teimlo ei fod yn bryd mynd cam ymhellach trwy ymrwymo ein hunain yn iawn i’r achos.
Mae uchelgeisiau ENFAWR gyda ni! Mae amcanion dewr gyda ni!
Trwy ddod yn CBC, byddwn ni’n gallu gwireddu ein hamcanion a mynnu bod y rhai ar y top yn ein cymryd ni o ddifri.
.
.
.
Gwneud cerddoriaeth fyw yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb gan:
* Gyflwyno gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd yn hawdd eu deall ond sy’n ffynhonnell gynhwysfar ddwyieithiog ac sy’n arddangos cydraddoldeb ar draws cynfas lliwgar a bywiog o safbwynt y cefnogwr neu’r ffan.
* Gefnogi, sefyll dros a helpu amddiffyn y gwead diwylliannol o leoliadau cerddoreiath a llefydd yng Nghymru a’i phrifddinas wrth addasu i adlewyrchu pynciau trafod cyfredol
* Rhoi platfform i bobl ac amrywiaeth y gymuned; uwcholeuo achosion, straeon, rhannu gwerthoedd ac eiliadau y mae angen eu gweld a’u clywed.
* Gweithredu fel platfform sy’n berchen i’r gymuned – dan arweiniad y gymuned, wedi’i bwydo gan y gymuned trwy ymgysylltu’n lleol, rhanbarthol a chydag ymwelwyr.
* Gweithio’n agored gydag awdurdodau lleol a sefydliadau eraill i gysylltu ardaloedd cymdeithasol ac economaidd mewn ardaloedd sydd ar yr ymylon ac sy’n ddifreintiedig, trwy rannu a chefnogi cyfleoedd a gwybodaeth.
.
.
.
Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda chwmni gwych o’r enw Social Firms Wales sydd wedi ein tywys trwy bob cam o’r broses betrus hon … maen nhw wedi codi ein hyder ni ac wedi ein galluogi i gredu bod ein syniadau yn gallu gwneud gwahaniaeth.
.
.
.
O’r tu allan? Ddim yn ddiddorol iawn.
Bydd y Canllaw Gig hwn yn parhau i fod yn ffynhonnell gwybodaeth gwerthfawr i chi. Mewn gwirionedd, bydd mwy o gynnwys, mwy o ryngweithio, mwy o gefnogaeth a mwy o opsiynau i chi.
Wrth gwrs, bydd yna wahaniaethau strwythurol mewnol, ond bydd hyn yn helpu i gyfuno’r lleisiau a’r safbwyntiau niferus sy’n rhoi llais i’n gwlad.
Wedi dweud hynnnnnnyyyyyyyyyy, EDRYCHWCH MAAAAAAAS!!!!
.
.
.
Rydym yn chwilio am bobl o bob cefndir sy’n gefnogwyr brwd o gerddoriaeth yng Nghymru; sy’n gallu ymrwymo i’n gweledigaeth, cenhadaeth a nodau, a sydd ag amser sbâr.
Os hoffech chi fod yn rhan o’n taith ac mae gennych chi ddiddordeb mewn dod yn gyfarwyddwr y CBC newydd yma, anfonwch e-bost at:
.
.
.
Os ydych chi wedi sgrolio trwy hyn i chi, rydych chi’n awyr go iawn!
Ac fel mae’r hen ddywediad yn dweud…
<3 NID YW POB ARWR YN GWISGO CLOGYN! <3